Cyflwynwyd y rhaglen hwn gan
Gwylio
Pwy yw'r Cymry ifanc cyfoes?
Yr arolwg unigryw sy'n llunio a phortread o'i chenhedlaeth

Y Portread

Hyd yn oed os nad wyt ti wedi llenwi'r arolwg eto, mi fedri di edrych ar y canlyniadau yn fanwl fesul cwestiwn.
1337
atebwyr Cymru
Yng Nghymru, rydym yn dal yn bell o fod yn gyfartal rhwng y rhywiau.
53
%
Dwi'n cytuno.
47
%
Dwi'n anghytuno.
1337
atebwyr Cymru

Er mwyn gweld yr holl ddata ac atebion ewch i ymweld â'r safle ar gyfrifiadur.

Ewrop

Mae'r arolwg yn holi'r un cwestiynau i bob gwlad sy'n cymryd rhan. Gyda'r map, mi alli di gymharu atebion pob gwlad.
1000189
atebwyr mewn 35 o wledydd
O ba un o'r rhain wyt ti'n teimlo dy fod yn perthyn fwyaf?
0 %
Dy ardal.
0 %
Dy wlad.
0 %
Ewrop.
0 %
Y Byd.
Er mwyn gweld yr holl ddata ac atebion ewch i ymweld â'r safle ar gyfrifiadur.

Cofia wylio'r rhaglenni dogfen ar y teledu

Mewn pedair rhaglen arbennig ar S4C, cei weld portreadau difyr o bobl ifanc Ewropeaidd
  • 13 Mai 2016, 21:30
    4 stori am gariad
    Ym Manceinion mae Richard yn chwilio am gariad ond yn cwestiynu a fydd o’n darganfod rhywun fydd yn fodlon rhoi iddo’r rhyddid mae o ei angen. Tra bod Francisco, yn Ericeira, Portiwgal, wedi disgyn mewn cariad efo merch o Roeg ac mae ei fywyd rhywiol wedi cymryd tro pedol. Mae’r Almaenes Angelina a Saher o Iraq mewn cariad llwyr ac eisiau symud i mewn efo’i gilydd yn Freiburg. Symudodd Thais o Baris i Berlin ar ôl gwahanu efo’i chariad er mwyn ailddechrau ei bywyd. Maen nhw i gyd yn cwestiynu eu hagweddau tuag at gariad, rhamant, hunaniaeth a rhyddid rhywiol ymysg yr her o drin perthnasau cyfoes.
  • 20 Mai 2016, 21:30
    4 stori am dorri'n rhydd
    Yng Nghaerdydd mae Efa, 24 oed yn ddi-waith, heb gariad ac yn ddigartref ond tydi hi ddim yn dibynnu ar ei rhieni i’w chefnogi yn ariannol. Ym Mrwsel mae Margaux, 24 oed yn astudio am e gradd ac yn ysu am fod yn annibynnol o’i rhieni hi. Mae Alexandro o Athen yn treulio ei amser yn byw efo system o paramaethu, ond yn amau y bydd angen help ei dad i ddilyn ei freuddwyd. Ym Monopoli, yr Eidal mae Claudia, 33 oed, eisiau priodi ei dyweddi a gadael tŷ ei rhieni. Mae’r pedwar person ifanc yma yn cynrychioli’r dewis sydd i bobl ifanc ar draws Ewrop wrth iddyn nhw newid a dechrau dod yn oedolion.
  • 27 Mai 2016, 19:30
    4 stori am swyddi
    Mae Pawel, yn Lodz, gwlad Pwyl wedi rhoi’r gorau i’w radd mewn pensaernïaeth i adeiladu FAB LAB, ac eisiau creu pentref eco. Mae Claudine o Luxembourg wedi dioddef trais corfforol ac emosiynol ac wedi rhoi ei bywyd i helpu teithwyr ifanc fel gweithwraig gymdeithasol. Ym Munich, roedd Uta yn gweithio am flynyddoedd mewn cwmni cyfreithiol mawr ond mi dorrodd i lawr ac adennill ei rhyddid. Bellach mae hi’n gweithio fel model ac yn y diwydiant lletygarwch, tra ei bod yn chwilio am waith efo mwy o ystyr. Mae Jean Baptiste yn byw yn ardal Paris ac wedi blynyddoedd o weithio fel clerc swyddfa, penderfynodd yn 23 oed i agor bwyty o safon uchel. Ar draws Ewrop mae’r gweithlu yn mynd i’r afael efo dewisiadau am eu bywydau a’u gwerthoedd sydd ddim o reidrwydd yn cyd-fynd.
  • 4 Meh 2016, 21:30
    11 stori : 1 penwythnos
    Diwrnod a noson ar un ddydd Sadwrn, wedi ei rannu ar draws Ewrop i gyd. Mae un ar ddeg o bobl ifanc yn rhannu’r un dyhead: i fwynhau eu hunain! O’r bwyty i’r ffair, efo alcohol, cyffuriau a sioeau drag, o fyrfyfyrio a synfyfyrio zen i gelf y stryd. Gydag un ar ddeg ffordd wahanol o dreulio dydd Sadwrn, cawn ddilyn y rhai dan sylw o’r wawr tan y wawr.