Cyflwynwyd y rhaglen hwn gan
Amdan

Mae Generation Beth yn rhaglen ryngweithiol a gynhyrchir gan France Télévisions, Upian, a Yami 2, mewn partneriaeth â'r EBU yn ogystal â 14 o ddarlledwyr Ewropeaidd. Mae’n esblygiad o Generation Quoi, arolwg a gynhaliwyd yn Ffrainc yn 2013 i greu portread o'r genhedlaeth rhwng 15 a 34 oed. Y tro hwn, mae 11 o wledydd wedi ymuno â Ffrainc i greu digwyddiad wirioneddol Ewropeaidd: Yr Almaen, Awstria, Gwlad Belg, Sbaen, yr Eidal, Iwerddon, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd, Cymru, a'r Weriniaeth Tsiec.

Mae'r rhaglen yn cael ei rhannu yn dair rhan:

  • Holiadur ar-lein cynhwysfawr, sydd ar gael yn y gwledydd Ewropeaidd hynny sy’n cymryd rhan, ac wedi'i gynllunio gyda chymorth cymdeithasegwyr. Pwrpas yr holiadur hwn yw edrych ar uchelgeisiau, gobeithion, ac ofnau’r genhedlaeth hon.
  • Rhaglen ddogfen a phortread ystadegol o bobl ifanc Cymru, yn cynnwys eu profiadau, fydd yn cael eu profi gan y data byw a gesglir drwy'r holiadur.
  • Rhaglen ddogfen a phortread ystadegol o ieuenctid Ewropeaidd, sy'n cynnwys profiadau pobl ifanc o’r holl wledydd sy'n cymryd rhan, a bydd rhain eto’n cael eu profi gan y data byw a gesglir trwy’r holiadur, yn ogystal â map gwybodaeth ar ffurf graffeg fydd yn cymharu atebion fesul gwlad ar raddfa Ewropeaidd.

 

A fydd fy atebion yn gyfrinachol?

Bydd, yn hollol gyfrinachol. Nid ydym hyd yn oed yn gofyn i ti nodi dy enw. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth am oedran, rhyw, lleoliad, a manylion am addysg neu alwedigaeth broffesiynol at bwrpas ystadegol yn unig, er mwyn ein helpu ni i dynnu’r llun mwyaf cywir o’r genhedlaeth gyfan. Bydd hyn yn caniatáu i ni, er enghraifft, wybod y cyfran o fyfyrwyr sy'n byw yng Nghaerdydd sydd angen gweithio er mwyn talu am eu haddysg. Byddwn hefyd yn gallu gweld faint o weithwyr ifanc o dan 23 oed sy’n teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi fel y dylent yn y gwaith.

Pan fyddi di’n ateb y cwestiynau rhagarweiniol,  byddwn yn casglu dy ddata proffil a’u storio’n annibynnol o unrhyw beth allai gael ei gysylltu hefo ti - ac, os wyt ti’n dymuno cofrestru gan ddefnyddio dy gyfeiriad e-bost, bydd dy gyfeiriad yn cael ei gysylltu i dy atebion dim ond i ganiatáu i ti ddod o hyd iddynt a chario mlaen i lenwi’r holiadur.

 

Yn olaf, ni fydd dim gwybodaeth nac atebion y byddi di’n ei roi ar y safle hwn yn cael ei yrru mlaen i drydydd parti o unrhyw fath, ac ni fydd yn cael ei wneud yn gyhoeddus ac eithrio ar ffurf canlyniadau'r arolwg.

 

Sut mae’r portread yn gweithio?

Er mwyn creu portread o’r genhedlaeth 18-34 oed, fe wnaethom benderfynu dilyn dull tair haen:

- dull meintiol, yn seiliedig ar ganlyniadau holiadur

- dull ansoddol, yn seiliedig ar fideos dogfennol

- dull gymharol, yn seiliedig ar wedd Ewropeaidd y prosiect, gan gynnwys fideos a map rhyngweithiol

 

1) Canlyniadau’r Holiadur

Mae holl atebion y 149 cwestiwn a gafwyd yn yr holiadur yn cael eu cofnodi ac ar gael mewn amser go iawn. Mewn geiriau eraill, gall y nifer o atebion i gwestiwn penodol (ac felly’r canlyniad) amrywio ar adegau gwahanol. Rydym felly’n mynegi’n glir bod y wybodaeth a gasglwyd yn yr holiadur yn ganlyniadau crai, nid ydynt yn ystadegau ddigon pwysedig i ailddosbarthu ymatebwyr ac atebion mewn modd mwy cynrychioliadol o boblogaethau’r gwledydd sy'n cymryd rhan.

Beth am edrych ar esiampl bendant: os ydy’r atebion i’r cwestiwn “Ydych chi’n optimistaidd am eich dyfodol?”wedi eu rhannu rhwng 78% Ydw a 22% Nac ydw, mae’n golygu o’r 3,122 o bobl sydd wedi ateb y cwestiwn hyd yn hyn, mae 2,435 wedi ateb “Ydw” a 687 wedi ateb “Nac ydw.” Nid ydyw’r ystadegau yma’n cymryd i ystyriaeth y nifer o bobl sydd wedi osgoi’r cwestiwn (trwy ddewis Y Cwestiwn Nesaf), nac ychwaith oed, rhyw, lleoliad, neu ddosbarth cymdeithasol-broffesiynol yr ymatebwyr, fel buasai’r achos fel arfer gyda holiaduron sefydliad.

Mae felly’n gwbl anghywir i fynegi bod “78% o Ewropeaid” neu fod “78% o bobl ifanc yn optimistaidd am eu dyfodol,” ond mae’n deg i ddweud bod 78% o ymatebwyr yr holiadur yn optimistaidd am eu dyfodol. Ond er hynny, mae hidlau ar gael i fireinio’r canlyniadau yn ôl meini prawf penodol ac felly’n gallu ffurfio barn am dueddiadau’r atebion.

Gallwch edrych ar yr holl atebion yma (Ffrainc) ac yma (Ewrop). 

2) Fideos Dogfennol

Rydym wedi rhannu cwestiynau’r holiadur i 21 thema, sy’n amrywio o ymatebion i’r argyfwng economaidd i gariad, ymlaen at berthnasau gyda rhieni neu anghydraddoldebau.

Mae gan bob thema fideo sy’n dangos cymeriadau o eich gwlad chi yn ateb yr un cwestiynau â defnyddwyr y we, ac yn dangos eu hymatebion, eu cwestiynau, eu amheuon a’u daliadau. Gyfochrog â hyn, mae’r fideos yn cael eu cryfhau gan y rhifau sy’n cael eu casglu trwy’r holiadur. Hefyd, os ydych chi’n cofrestru eich cyfeiriad e-bost, gallwch ail-fyw eich atebion mewn ffordd ddeinamig sy’n eich galluogi i gymharu eich atebion eich hun gyda’r canlyniadau diweddaraf.

Fe gafodd rai o gwestiynau’r holiadur eu haltro ar ôl creu’r fideos, ac felly ar adegau nid ydyw’r cymeriadau yn y fideos yn ateb yr un cwestiynau yn union â defnyddwyr y we.

Yn ogystal â’r portread o bobl ifanc eich gwlad, yn y tab “Ewrop”, fe allwch wylio casgliad o bob un o'r modiwlau Ewropeaidd, sydd hefyd ar ffurf 21 o fodiwlau fideo ar yr un themâu â'r portread lleol.

Mae’r rhan yma o’r wefan yn eich galluogi, nid yn unig i gymharu eich hun gydag eich gwlad yn ei chyfanrwydd, ond hefyd gyda phob gwlad a gymerodd rhan yn yr holiadur.

Gallwch wylio’r holl fideos yma am ganlyniadau Cymru neu yma ar gyfer y gymhariaeth Ewropeaidd.

 

3) Diffinio’r Genhedlaeth 18-34 oed mewn un gair

Er mwyn cwblhau’r portread, fe ofynnon i ddefnyddwyr y we a gymerodd ran yn yr holiadur i awgrymu gair i ddiffinio eu cenhedlaeth, ar wahân i “Cenhedlaeth Y.” “Cenhedlaeth Facebook,” “Cenhedlaeth yr Amseroedd Caled,” “Cenhedlaeth Endgame” – roedd defnyddwyr yn rhydd i awgrymu unrhywbeth roeddent nhw eisiau, cyn belled â’i fod yn 25 cymeriad neu lai.

Gallwch ganfod yr holl awgrymiadau yma.

Unrhyw gwestiynau neu sylwadau?

Cysylltwch gyda ni:

S4C
Parc Tŷ Glas
Caerdydd
CF14 5DU

Ffon : 0370 600 4141