TELERAU
Trosolwg
ERTHYGL 1. TELERAU AR GYFER RHYNGWEITHIO Â’R RHAGLEN
ERTHYGL 3. DATA PERSONOL
3.3. Defnyddio cookies ac Analytics
4.1 Mynediad i sylwadau
4.2 Telerau ac ymrwymiadau
ERTHYGL 5. EIDDO DEALLUSOL
ERTHYGL 6. ADDASU’R SAFLE
ERTHYGL 7. CYFRAITH BERTHNASOL – AWDURDODAETH I ANGHYDFODAU
Mae’r Safle yn rhaglen amlgyfrwng a gynlluniwyd i gael pobl 18-34 oed i siarad am eu hunain drwy holiadur chwareus a rhyngweithiol. Adeiladir y Safle o amgylch ymgyrch a gynhelir dros chwe mis, a’i fwriad yw canfod ieuenctid amrywiol Ewrop heddiw.
Mae’r Darlledwyr a’r Cynhyrchwyr wedi gweithio’n agos gyda thîm o gymdeithasegwyr i ddatblygu’r holiadur. Mae’r arolwg yn casglu atebion, yn arbennig am y gwerthoedd neu safbwyntiau a roddir gan y Defnyddwyr am amrywiaeth eang o bynciau fel eu barn am Ewrop neu deulu. Mae’r data adnabod personol ac electronig a gesglir oddi wrth Ddefnyddwyr yn cael ei brosesu i fod yn ddata awtomataidd, a dim ond pobl awdurdodedig yn eu swyddi fydd yn gallu eu gweld, sef y timau sy’n gweithio’n benodol i’r project "Generation Beth?" yn S4C a’r Cynhyrchwyr.
Caiff canlyniadau’r arolwg hwn eu cyhoeddi a’u dangos mewn amser real rhwng Ebrill 2016 ac Ebrill 2019. Byddant yn gwbl ddienw. Ni fydd cyhoeddi’r canlyniadau hyn yn enwi’r Defnyddwyr o dan unrhyw amgylchiadau. Caiff y canlyniadau hefyd eu rhannu gyda chymdeithasegwyr a weithiodd ar yr arolwg er mwyn eu dadansoddi. Byddant yn sicrhau y cedwir enwau’r atebwyr yn gyfrinachol.
Yn ystod y profiad rhyngweithiol hwn, gall Defnyddwyr gofnodi eu cynnydd trwy roi eu cyfeiriad e-bost ac ateb cwestiynau am nifer o bynciau gwahanol (hyd at 149 o gwestiynau), fel eu bod yn cyfrannu at greu’r proffil cyntaf erioed o bobl ifanc Ewrop yn unol â’r erthyglau a nodir yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel ”Telerau” ). Byddant hefyd yn gallu gweld y portread a adeiladir o’r casgliad hwn o ddata a rhoi sylwadau arnynt.
Mae’r Defnyddwyr yn cytuno eu bod wedi eu rhwymo gan y Telerau presennol a thrwy gymryd rhan yn yr holiadur a/neu roi unrhyw sylw ar-lein maent wedi eu derbyn.
Trwy dderbyn y Telerau hyn, mae’r defnyddiwr sy’n dymuno cyfrannu at yr arolwg ystadegol "Generation Beth?", yn datgan ei fod ef neu hi o oed cyfreithiol ac nid o dan unrhyw warcheidwaeth. Os yw’r defnyddiwr yn llai na’r oed cyfreithiol, mae’n rhaid iddo ef neu hi ddatgan eu bod wedi cael caniatâd ymlaen llaw gan eu rhieni, tiwtoriaid neu gynrychiolwyr cyfreithiol i gofrestru ar y Safle. Mae’r rhai sy’n gyfrifol am unigolyn o dan 18 oed yn cytuno eu bod yn gwarantu cydymffurfiaeth â holl ddarpariaethau'r Telerau hyn wrth i’w plentyn ddefnyddio’r Safle.
Gan hynny, anogir rhieni, gwarcheidwaid a’r rhai sy’n awdurdodi plentyn i ddefnyddio’r Safle, wylio a monitro’r defnydd gan eu plentyn a chofio mae eu cyfrifoldeb nhw yw gwylio eu plentyn yn ei ddefnyddio.
Yn y “Telerau” canlynol, tybir mai’r “Darlledwr” yw’r cyfrwng sy’n dod â gwefan Generation Beth (y “Safle”) i’w gynulleidfa (y “Defnyddwyr").
Y Cynhyrchwyr yw Upian ac Yami2.
Bwriad y ddogfen bresennol yw diffinio’r Telerau sy’n berthnasol i’r Safle a Defnyddwyr y We sy’n cymryd rhan. Mae pawb sy’n dymuno cymryd rhan yn yr arbrawf yn datgan eu bod wedi darllen y Telerau ac wedi cytuno’n benodol iddynt.
Gall y Telerau hyn gael eu haddasu ar unrhyw adeg gan y Cynhyrchwyr heb roi gwybod i’r Defnyddwyr ymlaen llaw. Cynghorir Defnyddwyr i wirio’r fersiwn diweddaraf yn rheolaidd.
Er mwyn ei gwneud hi’n bosibl i gasglu a didoli data a phersonoli’r profiad rhyngweithio a gynigir ar y Safle, gofynnir i Ddefnyddwyr yn gyntaf roi atebion i sawl cwestiwn rhagarweiniol am eu hoed, rhyw, lleoliad, lefel addysg a sefyllfa bresennol.
Gofynnir i’r Defnyddwyr roi eu cyfeiriad e-bost er mwyn iddynt gael dolen bersonol fel y gallant ailgydio yn yr holiadur pryd bynnag maent eisiau.
Trwy roi eu cyfeiriad e-bost ac ateb yr arolwg, mae Defnyddwyr yn cydsynio i’r Cynhyrchwyr ddefnyddio eu data yn sgôp y project.
Gall y Cynhyrchwyr ddefnyddio’r cyfeiriadau e-bost hyn i roi gwybodaeth i Ddefnyddwyr am y rhaglen.
Deallir yn benodol na fydd y Darlledwyr na’r Cynhyrchwyr yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am unrhyw niwed a gaiff Defnyddwyr a/neu drydydd parti oherwydd:
- Nad yw’r gwasanaeth ar gael neu ddim yn gweithio, waeth beth fo’r rheswm
- Colli data penodol i Ddefnyddwyr
- Canlyniadau unrhyw firws cyfrifiadurol
- Achosion o force majeure
Oherwydd nodweddion y Rhyngrwyd, yn arbennig y ffaith y gall cyfraniadau gael eu tresmasu gan drydydd parti anawdurdodedig ac felly eu llygru neu eu lawrlwytho, a’r ffaith y gall unrhyw berson greu dolen sy’n rhoi mynediad i’r cyfraniadau hyn, ni fydd y Darlledwyr na’r Cynhyrchwyr mewn unrhyw achos yn atebol am iawndal o unrhyw fath, boed yn ddamweiniol neu a ddioddefir gan Ddefnyddwyr neu drydydd parti, p’un a achoswyd gan drydydd parti ai peidio.
Caiff y data personol ac electronig a gesglir oddi wrth Ddefnyddwyr ei brosesu’n ddata awtomataidd, yn arbennig i alluogi Defnyddwyr i deilwra eu profiad ar y Safle fel y gallant ailgydio yn y profiad a/neu gydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol.
Cedwir data Defnyddwyr gan y Cynhyrchwyr ac unrhyw isgontractwyr o ddewis y Cynhyrchwyr fel y nodwyd yn adran ‘Gwybodaeth Gyfreithiol’ y Safle. Er mwyn sicrhau bod data personol Defnyddwyr y we yn cael eu diogelu rhag cael eu colli, addasu neu eu datgelu, byddant yn cael eu cadw ar weinyddion cyfrifiadurol diogel am gyfnod cyfyngedig o hyd at dair (3) blynedd. Yn unol â darpariaethau diogelu data perthnasol o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, mae Defnyddwyr yn elwa o hawl i gael mynediad i’w data personol a hawl i gywiro neu ddileu eu data. I arfer yr hawliau hyn, yn arbennig gwneud cais bod eu cyfraniadau yn yr adran gyfranogol yn cael eu dileu, ar unrhyw adeg, gall Defnyddwyr wneud cais ysgrifenedig i’r Darlledwyr, gan ddefnyddio’r ddolen “gyswllt”.
Yn y ffordd hon gall Defnyddwyr ofyn i ddata personol mewn perthynas â nhw sy’n anghywir, anghyflawn, amwys, wedi dod i ben, neu y mae ei gasglu, defnyddio, datgelu neu gadw wedi ei wahardd yn cael ei gywiro, cwblhau, egluro, diweddaru neu ddileu.
Ni fydd data Defnyddwyr yn cael eu defnyddio at unrhyw ddibenion hysbysebu neu farchnata pellach.
Dim ond eu cyfeiriad e-bost a ddefnyddir fel y gall y defnyddwyr ailgydio yn yr hyn maent wedi ei wneud a hefyd cael gwybodaeth am ddatblygiad y rhaglen. Y Defnyddwyr fydd yn gyfrifol bob amser am eu cyfrif eu hunain a sicrhau bod eu cyfrinair yn cael ei gadw’n gyfrinachol.
Er mwyn gwella ansawdd eu gwasanaethau a chyflawni gofynion eu Defnyddwyr, bydd y Darlledwyr a’r Cynhyrchwyr yn defnyddio “cookies” ac offer dadansoddi’r we: Google Analytics.
Mae’r Safle yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth i ddadansoddi gwefannau sy’n helpu’r Cynhyrchwyr i astudio sut mae Defnyddwyr yn defnyddio’r Safle. Mae’r data a gynhyrchir gan y cookies dadansoddi pori hyn yn cynnwys: safleoedd yr ymwelir â nhw, pa mor aml, nifer yr ymweliadau ac ailymweld, hyd y pori, chwiliadau a wneir, porwr a ddefnyddir, y darparwr gwasanaeth a’r lleoliad yn gysylltiedig â’r cyfeiriad IP. Os bydd Defnyddwyr wedi dewis peidio â rhoi eu cyfeiriad IP ar y safle hwn, bydd Google yn dal i drosglwyddo eu cyfeiriad IP, ond bydd yn cael ei fyrhau mewn gwledydd sy’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu mewn Gwledydd eraill sydd wedi llofnodi’r cytundeb yn sefydlu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mewn achosion eithriadol yn unig, bydd eu cyfeiriad IP cyfan yn cael ei drosglwyddo i weinydd Google lle caiff ei fyrhau. Ni fydd Google yn cysylltu eu cyfeiriad IP a anfonwyd drwy Google Analytics gyda data arall a ddelir gan Google. Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i asesu eu defnydd o’r Safle a llunio adroddiadau am weithgarwch y Safle a’r defnydd o’r Rhyngrwyd i’r Cynhyrchwyr. Gall hyn gynnwys: mesur a dadansoddi arferion pori ac ymddygiad Defnyddwyr, datblygu proffiliau pori dienw a gwelliannau posibl yn dibynnu ar y dadansoddiad o ddata Defnyddwyr. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i reolau cyfrinachedd Google (http://www.google.com/intl/en/policies/privacy/ ). Yn ogystal â blocio’r cookies hyn ym mhorwr y Defnyddwyr, gall Defnyddwyr dadactifadu Google Analytics (https://tools.google.com/dlpage/ gaoptout?hl=en ) tra’n pori gan ddefnyddio modiwl a ddarperir gan Google.
I ddysgu mwy am y ffyrdd penodol y gallwn ddefnyddio cookies a’r offer dadansoddi hyn, edrychwch ar ‘Bolisi Preifatrwydd’ S4C a pholisi ‘Cookies’ S4C sydd ar gael ar https://www.s4c.cymru/c_privacypolicy.shtml
I gael rhagor o wybodaeth ac argymhellion am cookies y Rhyngrwyd, ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth (https://ico.org.uk/).
Mae defnyddio system sylwadau DISQUS am ddim ac yn amodol ar gofrestru ymlaen llaw. Gellir gwneud hyn naill ai drwy Twitter, Facebook neu Google neu drwy greu cyfrif penodol DISQUS. Dangosir yr wybodaeth a ddarperir ar y safleoedd hyn (enw, rhithffurf neu enw arall) i adnabod y defnyddiwr.
Mae defnyddio’r system sylwadau yn adran ryngweithiol y Safle am ddim ac yn amodol ar gofrestriad gorfodol defnyddiwr y Rhyngrwyd ymlaen llaw drwy ei gyfeiriad/ei chyfeiriad e-bost.
Ar yr amod mai:
Mae Defnyddwyr yn gwbl gyfrifol am y sylwadau a roddir ganddynt ar adran ryngweithiol y Safle. Gan hynny, maent yn cytuno’n benodol i beidio â:
a. unrhyw ddarpariaeth mewn perthynas â phreifatrwydd, eiddo deallusol (yn cynnwys hawlfraint, patentau, nodau masnach), cyfraith y wasg (yn cynnwys casineb hiliol, casineb a gwahaniaethu, galw i drais, adolygiadaeth neu negyddiaeth, senoffobia, homoffobia), ynghyd â hawliau delwedd;
b. deddfwriaeth twyll cyfrifiaduron;
c. rheolau a moesoldeb polisïau cyhoeddus, yn cynnwys rheoliadau’n ymwneud â chynnwys pornograffig a phedoffeil;
d. y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i blant dan oed.
Caiff y sylwadau a roddir ar y Safle eu cymodi mewn perthynas â’r Telerau. Mae cymedrolwyr y Safle yn cadw’r hawl, heb roi gwybod i’r Defnyddwyr ymlaen llaw, i ddileu'r holl gyfraniadau neu ran ohonynt sy’n mynd yn groes i’r Telerau hyn, neu a all fod yn erbyn y gyfraith, ac i wahardd o’r Safle, dros dro neu’n barhaol, unrhyw ddefnyddwyr o’r Rhyngrwyd sy’n amlwg neu’n ailadroddus yn mynd yn groes iddynt yn systematig. Ni helir herio penderfyniadau’r cymedrolwyr. Trwy roi sylw ar y Safle, mae’r Defnyddwyr yn cytuno i barchu eu hawdurdod ar yr un pryd â’r darpariaethau hyn.
Mae holl gydrannau’r Safle (strwythur cyffredinol, meddalwedd, chwaraewr fideo, testunau, delweddau wedi’u hanimeiddio neu beidio,synau, gwybodaeth, etc.) yn ogystal ag arwyddion penodol (logos, brandiau, etc.) yn eiddo i’r Cynhyrchwyr a/neu eu partneriaid ac wedi eu diogelu gan hawlfraint a chyfraith eiddo deallusol, yn y byd cyfan.
Gan hynny ac yn unol â chyfreithiau Eiddo Deallusol y DU:
Mae’r Darlledwyr a’r Cynhyrchwyr yn cadw’r hawl i addasu neu derfynu mynediad i’r Safle ar unrhyw adeg, boed dros dro, yn ysbeidiol neu’n barhaol, a gyda rhybudd neu heb. Trwy ddefnyddio’r Safle, mae Defnyddwyr yn cydnabod nad yw’r Darlledwyr na’r Cynhyrchwyr yn gyfrifol i’r Defnyddwyr neu unrhyw barti arall mewn perthynas ag unrhyw addasu, atal neu derfynu’r Safle a’i barth cyfranogi.
Llywodraethir y Telerau hyn gan Gyfraith Cymru a Lloegr. Caiff unrhyw anghydfod mewn cysylltiad â bodolaeth, dilysrwydd, dehongliad a/neu berfformiad Telerau’r cytundeb hwn, sydd heb eu datrys yn gyfeillgar, eu cyflwyno i lysoedd Cymru a Lloegr.
Mae Generation Beth yn wasanaeth a ddarperir gan y Darlledwyr a’r Cynhyrchwyr.
Cyfeiriadau:
S4C
Parc Tŷ Glas
Llanishen
Caerdydd
CF14 5DU
Ffôn 0370 600 4141
UPIAN
Siège social : 211 rue Saint-Maur 75010 Paris
RCS Paris B 421204538
Manager : Alexandre Brachet
Ffôn: +33 (0)1 53 19 70 03
Cyswllt : contact@upian.com