Cyflwynwyd y rhaglen hwn gan

Allet ti fod yn hapus heb bleidlais?

Erbyn hyn, mae poblogaeth Cymru wedi ateb dros 50,000 o gwestiynau unigol, ac wrth i’r data lifio i mewn – daw’r amser i ddechrau dadansoddi!
Wrth yrru adref o Gaernarfon yn ôl am Fethesda heddiw, a gweld llu o arwyddion lliwgar wedi eu gosod mewn rhesi ar naill ochr i’r lon, ni ellir osgoi ei fod yn gyfnod etholiadau yma yng Nghymru. Wrth edrych drwy ganfyddiadau’r arolwg hwn mae’n ymddangos fel bod y cwestiwn am y bleidlais yn le priodol i ni gychwyn dadansoddi.

Erbyn hyn, mae dros 300 o bobl wedi ateb y cwestiwn hwn fel rhan o’r arolwg yng Nghymru, gyda’r niferoedd yn codi bob dydd. Er bod y sampl yng Nghymru yn gymharol fach ar hyn o bryd, mae’n cynnig cyfle cychwynnol i ni edrych ar y cwestiwn “A allet fod yn hapus heb y bleidlais?”

O’r ymatebion hyn, dywed 74% o bobl na allent fod yn hapus heb bleidlais. Mae’r canran hwn yn ganran sylweddol iawn, sy’n amlygu gwerth a phwysigrwydd democratiaeth i drigolion Cymru. Mewn cyfnod o ansicrwydd mawr yn deillio o’r hinsawdd economaidd bresennol, sy’n dynodi cyfnod o doriadau a chaledi, mae’n ymddangos bod y bleidlais yn nodwedd bwysig i’r mwyafrif o ‘Millenials’ Cymru.

Erbyn heddiw, nid yw’r hawl i bleidlais yn cael ei gyfyngu gan hil, chred, nag rhyw ym Mhrydain. Er hynny, nid yw’r cydraddoldeb hwn wastad wedi bodoli. Gan gofio ganrif yn ôl, doedd dim hawl gan ferched i bleidleisio mewn etholiadau seneddol ym Mhrydain, bu’n ddiddorol hidlo’r data i edrych ar sut mae’r canfyddiadau’n gwahaniaethu yn ôl rhyw.
Wel, ar y cyfan, bach iawn yw’r gwahaniaeth rhwng dynion a merched, gyda dim ond 2% yn fwy o ferched yn nodi na allent fod yn hapus heb bleidlais, nag o fechgyn. Awgrymir y data a gasglwyd hyd yn hyn felly, fod yr hawl i bleidlais yr un mor bwysig, os nad fwy pwysig, i ferched nag i ddynion.

Beth am wahaniaethau yn ôl oedran? Wel, mae’r canfyddiadau ymysg y bobl ifanc rhwng 18 a 25, a 26 a 34 bron iawn yn gyfartal. Dywed 76% o bobl ifanc rhwng 18 a 25, a 77% o bobl ifanc rhwng 26 a 34 na allant fod yn hapus heb bleidlais. Canfyddiad diddorol, yw bod y gwahaniaeth mwyaf ymysg yr ymatebwyr sydd dros 34 mlwydd oed. Gwelir lleihad yn y nifer o bobl na all fod yn hapus heb bleidlais ymysg y grŵp oedran hwn. Fel mae’r ystadegau’n sefyll, dywed 72% ohonynt na allant fod yn hapus heb bleidlais, tra bod 28% yn nodi y gallent.

Mae’n bosib dweud bod y data mwyaf diddorol i’w ganfod wrth gymharu atebion y cwestiwn yma gydag atebion gweledydd eraill Ewrop. Wrth gymharu atebion Cymru i’r cwestiwn hwn gyda rhai o wledydd eraill ar draws Ewrop, ymddangosir mai Cymru sydd ag un o’r canrannau uchaf o ymatebwyr sy’n nodi na allent fyw heb bleidlais, yn dilyn Bwlgaria a Groeg. Ar hyn o bryd, mae ystadegau o ddwy wlad yn nodi gall y mwyafrif o’u hymatebwyr fod yn hapus heb bleidlais, sef yr Eidal ac Iwerddon. Er mai bach iawn yw’r mwyafrif hwn yn yr Eidal (51%) mae’r canfyddiadau o Iwerddon yn anhygoel, wrth i 90% o’u hymatebwyr nodi y gallent fod yn hapus heb bleidlais.

I grynhoi, wrth i bron i dri chwarter o’r ymatebwyr nodi na allent fod yn hapus heb bleidlais, daw’n amlwg mai’r brîf ganfyddiad sy’n deillio o ddata’r cwestiwn hwn hyd yma, yw pwysigrwydd yr hawl i fynegi barn ar faterion sy’n dylanwadu ar fywydau pobl Cymru. Diddorol byddai gweld faint ohonynt fydd yn gwneud defnydd o’r hawl hwnnw ar ddiwrnod yr etholiad!

Shân Pritchard