Cyflwynwyd y rhaglen hwn gan

Nid etholiadau’r Cynulliad yw’r unig etholiadau ar y gorwel. Mae’r refferendwm ar aelodaeth Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn cael ei gynnal yn ystod yr haf (Mehefin 23 i’r rhai ohonoch sydd heb fod yn talu sylw). O ganlyniad, mae’r cwestiynau o fewn yr arolwg sy’n ffocysu ar lle Cymru o fewn yr Ewrop yn hynod amserol, a fyddai’n dewis dau gwestiwn i’w ddadansoddi yn y blog yma. Mae’n deg dweud bod y pwnc yma yn bwnc llog ar hyn o bryd, yng Nghymru, ac yng ngweddill Prydain. Ond beth am weddill Ewrop? Beth yw barn pobl yng ngwledydd eraill am Ewrop a’r gymuned Ewropeaidd?

Wyt ti’n teimlo’n Ewropeaidd?

Wyt ti'n teimlo Ewropeaidd?

O edrych ar y map mae Cymru wedi ei liwio’n wyrdd, sef y lliw sy’n dynodi ‘ydw’. Fodd bynnag, mae angen bod yn ofalus yma gan bod y rhaniad rhwng ‘ydw’ ac ‘nag ydw’ yn gymharol fychan. Gwelwn o’r data mai 53% o’r cyfranogwyr a atebodd eu bod yn teimlo’n Ewropeaidd, tra bod 47% yn nodi nad ydynt. Mae’n bosib dehongli felly nad oes consensws clir ynglŷn a hunaniaeth Ewropeaidd y bobl a holwyd. Os ydym yn edrych ar ddata Cymru a gweddill Prydain efo ei gilydd mae’r bobl sy’n teimlo’n Ewropeaidd yn cynyddu i 56%. Yw hyn yn awgrymu felly bod pobl Cymru gyda llai o ymdeimlad Ewropeaidd nag rhai gweddill Prydain? Mae’r data (hyd yn hyn) yn awgrymu hynny.

Yn ddiddorol, mae’r ymdeimlad o berthyn i Ewrop i weld yn llawer cryfach ar gyfandir Ewrop, gyda’r mwyafrif helaeth o wledydd dros 70% a 80% yn nodi ‘ydw’ i’r cwestiwn. Dim ond un gwlad yn Ewrop oedd a dros 50% yn nodi nad oeddent yn teimlo’n Ewropeaidd, sef Gweriniaeth Iwerddon, gyda 55% yn nodi nad oeddent yn teimlo’n Ewropeaidd. Mae’n ymddangos felly nad yw defnyddio’r Ewro o reidrwydd yn arwain at hunaniaeth Ewropeaidd.
Mae’r data yn awgrymu bod trigolion Ynysoedd Prydain yn gweld eu hunain yn wahanol i weddill cyfandir Ewrop. Mae’n debyg bod rhesymau cymdeithasol ac hanesyddol tu cefn i’r gwahaniaeth yma. Ydi o’n deillio o’r ffaith ein bod ni’n byw ar ynys, a bod darn o ddŵr rhwng “ni” a “nhw”? Ewch draw i’r adran clipiau fidio i glywed pobl yn trafod eu hatebion i gwestiynau’r ymchwil yma. Mae’r fideos yn ddiddorol iawn ac yn rhoi cig ar esgyrn yr ystadegau moel.

A Dyled ein gwlad adael yr Undeb Ewropeaidd?

Ond beth felly am yr Undeb Ewropeaidd ei hun? Yw’r lefel gymharol isel o hunaniaeth Ewropeaidd ym Mrhydain yn peryglu ei barhad ynddi? Yw’r argyfwng ariannol presennol a gofidion am reolaeth dros ffiniau gwledydd yn darogan buddugoliaeth i’r rhai sydd am weld Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd?

Mae’r ffigyrau o Gymru yn glir iawn, gyda 66% yn anghytuno y dylid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nododd 25% eu bod yn cytuno a gadael yr undeb, gyda 9% yn dweud nad oes ots ganddynt. Awgrymau’r data felly nad yw diffyg hunaniaeth Ewropeaidd o reidrwydd yn golygu bod pobl am adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n bosib bod ffactorau eraill ar waith, er enghraifft, ffactorau economaidd. Ai diwedd y gân fydd y geiniog?

Os edrychwn ar ddata Prydain i gyd efo ei gilydd, mae’r ganran o blaid gadael ac aros bron union yr un peth, gyda 47% am adael a 46% eisiau aros. Mae’r canrannau hyn yn hynod o agos ac yn argoeli misoedd diddorol o’n blaen wrth i’r ymgyrchoedd dros aros a gadael fynd benben.

Beth yw eich barn chi? Ewch draw i adran yr arolwg i’w gofnodi

Blog gan Cynog Prys